| Artist: Llwybr Llaethog |
| Teitl: Fflio Dub |
| |
| Rhif Catalog: SL002 |
| Dyddiad Rhyddhau: 13/7/05
|
| |
Pris: Am Ddim
Cynhyrchydd : John Griffiths a Kevs Ford |
Peirianydd : John Griffiths
a Kevs Ford |
| |
Fflio Dub- dde-gliciwch a dewiswch 'Save Target As..' i lawrlwytho .
Llwybr Llaethog
Mae'r ddeuawd Kevs Ford a John Griffiths wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth gyda'i gilydd ers 1984. Ffurfiwyd Llwybr Llaethog ym Mlaenau Ffestiniog dros ugain mlynedd yn ôl, ers hynny mae'r ddeuawd arloesol wedi llwyddo i wthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg dro ar ôl tro.
Rhyddhawyd eu senglau cyntaf Dull di Drais a Tour de France yn 1986 a '87 ac ers hynny mae Llwybr Llaethog wedi bod yn gwthio'i harddull unigryw ar bawb o fewn clyw. Mae'r ffaith eu bod yn dal i gynhyrchu ar ôl ugain mlynedd yn dyst i'w poblogrwydd, ac yn brawf fod y pair diwaelod o syniadau chwyldroadol yn dal i fodoli. Mae eu swn dub- reggae wedi ei gyplysu a hip-hop a synau electroneg wedi ennyn parch i'r ddau gan gonglfaeni'r byd cerddorol ac wedi arwain at sesiynau John Peel yn ogystal â sylw mewn cylchgronau rhyngwladol megis NME a Melody Maker. Teithiodd y ddau gyda'r Super Furry Animals nol ynghanol y nawdegau, ac fe ofynnodd yr SFA iddynt ail-gymysgu traciau ganddynt ar gyfer y DVD Phantom Phorce. Dros y blynyddoedd mae Llwybr Llaethog wedi cyd-weithio gyda llwythi o artistiaid gwahanol gan gynnwys yr SFA, Anweledig a'r Tystion.
Mega-Tidy yw'r nawfed albym i Kevs a John
ei ryddhau fel Llwybr Llaethog, ac oddi ar yr albym hon y
cymerir Fflio Dub. Mae'r ddau wedi llwyddo unwaith eto i ddenu
enwau mawr i weithio gyda nhw ar yr albym newydd. Arno clywn
gyfraniadau gan Geraint Jarman, Li'l Miss, MC Sleifar, Ed
Holden yn ogystal ag enwau newydd, llai adnabyddus fel Cofi
Bach a Tew Shady. Mae'r albym newydd yn dal i wthio ffiniau
ac yn dangos fod poblogrwydd y ddau yn dal mor fawr ag erioed.
Am fwy o wybodaeth am Llwybr Llaethog neu
'Mega Tidy' cliciwch yma.
|