| Artist: Winabego |
| Teitl: Dal Fi Fyny |
| |
| Rhif Catalog: SL001 |
| Dyddiad Rhyddhau: 6/6/05 |
| |
| Pris: Am Ddim |
| |
| Cynhyrchydd: Dyfrig Evans |
| Peirianydd: David Wrench |
Dal Fi Fyny - dde-gliciwch a dewiswch 'Save Target As..' i lawrlwytho .
Winabego
Mae Winabego'n cyfuno cerddoriaeth gitar rhyddmic roc, gyda melodiau prydferth a gafaelgar er mwyn creu sain gwahanol i weddill y `sin' Gymraeg ar y funud.
Ffurfiwyd Winabego ym Mhethesda yn 2002, a bu iddynt berfformio'n fyw am y tro cyntaf yng Nghlwb Y
Rheilffordd, Bangor yn cefnogi The Keys. Ers hyn, y maent wedi gigio'n reolaidd ledled Cymru gan sicrhau dilyniant cynyddol dros y flwyddyn diwethaf. Y maen't wedi cefnogi artistiaid megis Kentucky AFC, Texas Radio Band ac Anweledig, yn ogystal a perfformio fel prif fand mewn nosweithiau yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Dros y misoedd nesaf byddent yn cefnogi Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri, ac yn mynd ar daith Brydeinig gyda Topper a Zabrinzki ym mis Gorffennaf.
Darlledwyd Sesiwn C2 gan y band
ym mis Mai, 2004. Ym mis Mehefin 2004 aethant ati i ddechrau
gweithio ar eu E.P. cyntaf. Rhyddhawyd yr E.P, 'Hyder Bregus'
ym mis Tachwedd a bu'n 'Record yr Wythnos' ar raglen radio
Huw Stephens. Bu i'r EP gael ei enwebu am `EP y Flwyddyn'
yng ngwobrau RAP 2005. Cynhyrchwyd `Hyder Bregus'gan Dyfrig
Wyn Evans, gynt o Topper. Byddant yn dychwelyd i'r stiwdio
dros yr
haf i recordio traciau ar gyfer albym newydd a fydd allan
diwedd 2005. Bydd 'Dal Fi Fyny' yn ymddangos ar yr albym newydd
yma.
Am fwy o wybodaeth am Winabego
neu 'EP Hyder Bregus' cliciwch yma. |