| Artist: Winabego |
| Teitl: Dal Fi Fyny |
| Fformat: Sengl Lawrlwythedig |
| Rhif Catalog: SL001 |
| Dyddiad Rhyddhau: 6/6/05 |
| Tiriogaeth: Y Byd |
| Pris: Am Ddim |
| Traciau: Dal Fi Fyny |
| Cynhyrchydd: Dyfrig Evans |
| Peirianydd: David Wrench |
Dal Fi Fyny - dde-gliciwch a dewiswch 'Save Target As..' i lawrlwytho .
Hanes Winabego
Mae Winabego'n cyfuno cerddoriaeth gitar rhyddmic roc, gyda melodiau prydferth a gafaelgar er mwyn creu sain gwahanol i weddill y `sin' Gymraeg ar y funud.
Ffurfiwyd Winabego ym Mhethesda yn 2002, a bu iddynt berfformio'n fyw am y tro cyntaf yng Nghlwb Y
Rheilffordd, Bangor yn cefnogi The Keys. Ers hyn, y maent wedi gigio'n reolaidd ledled Cymru gan sicrhau dilyniant cynyddol dros y flwyddyn diwethaf. Y maen't wedi cefnogi artistiaid megis Kentucky AFC, Texas Radio Band ac Anweledig, yn ogystal a perfformio fel prif fand mewn nosweithiau yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Dros y misoedd nesaf byddent yn cefnogi Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri, ac yn mynd ar daith Brydeinig gyda Topper a Zabrinzki ym mis Gorffennaf.
Darlledwyd Sesiwn C2 gan y band ym mis Mai, 2004. Ym mis Mehefin 2004 aethant ati i ddechrau gweithio ar eu E.P. cyntaf. Rhyddhawyd yr E.P, 'Hyder Bregus' ym mis Tachwedd a bu'n 'Record yr Wythnos' ar raglen radio Huw Stephens. Bu i'r EP gael ei enwebu am `EP y Flwyddyn' yng ngwobrau RAP 2005. Cynhyrchwyd `Hyder Bregus'gan Dyfrig Wyn Evans, gynt o Topper. Byddant yn dychwelyd i'r stiwdio dros yr
haf i recordio traciau ar gyfer albym newydd a fydd allan diwedd 2005. Hefyd byddent yn recordio sesiwn ar gyfer Adam Walton (Radio Wales). |